Overview

Cydymaith Ymchwil (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP)

Salary: £39906.00

Newid eich gyrfa, newid bywydau

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).

Y Rôl

Prif bwrpas y swydd yw darparu cymorth ymchwil i’r Ysgol Addysg, Ieuenctid, Plentyndod a Chwaraeon, gyda ffocws arbennig ar Addysg Gychwynnol Athrawon ac wedi’i halinio i waith y rhaglenni Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) yng Nghymru.

Bydd deiliad y rôl yn cynorthwyo Pennaeth yr Ysgol a Chyfarwyddwr y TAR yng Nghymru gyda’r Gyfadran a chyfadran yr Ysgol Addysg, Ieuenctid, Plentyndod a Chwaraeon yn fwy eang. Bydd deiliad y rôl hefyd yn cefnogi a chydsymud ymchwil tîm o Diwtoriaid Cwricwlwm Addysg Gychwynnol i Athrawon yn cefnogi’r rhaglen TAR yng Nghymru. Bydd mentora a chefnogi rhaglen ymchwil bersonol yr ôl-ddoethuriaeth yn cael eu cynnwys mewn ffyrdd priodol.

Sylwer: y dyddiad cychwyn cynharaf ar gyfer y rôl hon yw 1 Ebrill 2026.

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Cynnal ymchwil ym myd addysg gyda ffocws ar cyd-destun Cymraeg ac Addysg Gychwynnol i Athrawon, yn sicrhau cydymffurfiad gyda safonau moesegol a chyfreithiol.
  • Cydsymud a chefnogi ymchwil ar gyfer y rhaglen TAR a’r Ysgol, yn gweithio yn agos gyda’r Cyfarwyddwr a Thiwtoriaid Cwricwlwm i ddatblygu dynesiad strategol.
  • Adolygu llenyddiaeth a chynhyrchu crynodebau; cynorthwyo cyflwyniadau grant a chasglu data neu waith maes yn ôl yr angen.
  • Ysgrifennu a chyhoeddi papurau ysgolheigaidd, cyd-awduro cyhoeddiadau, a chyfrannu i lyfrau ac allbynnau arall.
  • Lledaenu canfyddiadau ymchwil drwy sianeli academaidd a chyfleu i gynulleidfaoedd ehangach, yn cynnwys Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon yr OU.
  • Cefnogi’r Cyfarwyddwr TAR wrth wella proffil Tiwtoriaid Cwricwlwm, gan gynnwys aliniad, cynigion, ac ymgysylltu â chymunedau ymchwil.
  • Darparu cefnogaeth olygyddol a threfnu digwyddiadau perthnasol i ymchwil Addysg Gychwynnol i Athrawon.
  • Cydweithio ag ymchwilwyr ar draws Partneriaeth Addysg Gychwynnol i Athrawon yr OU a sefydliadau academaidd, sector cyhoeddus ac ysgol allanol.

Amdanoch Chi

Hanfodol:

  • PhD mewn pwnc perthnasol o addysg, megis cyd-destun addysgol Cymru a diwygio addysg athrawon, neu addysg gychwynnol athrawon.
  • Gallu profedig i gynnal adolygiadau llenyddiaeth a chasglu, dadansoddi, a syntheseiddio data ansoddol a/neu feintiol gan ddefnyddio dulliau ymchwil lluosog.
  • Sgiliau academaidd cryf, yn cynnwys dehongli llenyddiaeth, datblygu fframweithiau cysyniadol, cyfrannu i ddadleuon, a chyfathrebu yn effeithiol.
  • Dangos gallu i weithio’n annibynnol ac yn seiliedig ar dîm, gyda sgiliau datrys problemau ac addasrwydd i flaenoriaethau sy'n newid.
  • Profiad o gydweithio â phartneriaid allanol megis ymchwilwyr academaidd, sefydliadau sector cyhoeddus, ac ysgolion.
  • Tystiolaeth o lwybr ymchwil, gan gynnwys cynllun clir ar gyfer cyhoeddi dros y tair blynedd nesaf.
  • Arbenigedd yn ysgrifennu, golygu, a chyhoeddi yn Saesneg, gyda gwybodaeth am ystyriaethau moesegol wrth ymchwilio gyda phlant a phobl ifanc.
  • Ymrwymiad i amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant yn unol ag ethos y Brifysgol, a chofnod o ymchwil neu gyfnewid gwybodaeth sy’n briodol i’r rôl.

 

Dymunol

  • Gallu i ddarllen, ysgrifennu, a siarad Cymraeg i safon uchel, gan gynnwys cynnal ac ysgrifennu ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Hanes da o gyhoeddi ymchwil ar gyfer y cyfnod gyrfa.

Cymorth gyda'ch cais

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.

Beth yw'r buddion i chi?

Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.  Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).

Mae hon yn swydd hybrid, a gall yr ymgeisydd llwyddiannus ddisgwyl mynychu ein swyddfeydd yng Nghaerdydd ddim mwy na 2 waith y mis. Fodd bynnag, gofynnwn am hyblygrwydd mewn ymateb i anghenion busnes.

Trefniadau Gweithio Hyblyg

Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.

Camau nesaf yn y broses Recriwtio

Bydd y rhestr fer yn cael ei chynnal yr wythnos yn dechrau 25 Ionawr 2026

Gellir cyflwyno eich cais yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Nodwch os hoffech ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfweliad neu unrhyw fath arall o asesiad. Byddwn yn darparu cyfieithydd ar y pryd os bydd angen un.

Hysbysiad dyddiad cau cynnar

Efallai y byddwn yn cau'r hysbyseb swydd hon yn gynharach na'r dyddiad cau a gyhoeddwyd os bydd nifer y ceisiadau a dderbyniwyd yn foddhaol. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar. 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol:

  • CV
  • Datganiad cefnogol o ddim mwy na 1000 o eiriau yn amlinellu sut rydych yn bodloni’r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl hon.

 

Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio.  Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.

Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau gwiriad DBS.

Before you apply -
Register now and turn on alerts for jobs like this!

  • To apply for this position, receive job notifications and manage your applications, click "Register with Diversity Jobs Group".
  • To apply for this position without registering, click "Apply with Customer".

By registering you agree to our terms and conditions.

Apply with Customer

IMPORTANT: Before applying for this role, please make sure you have the right to work in the country where the role is based. Unless it clearly stipulates within in the job advert above that the hiring company is looking to or able to sponsor applicants it is deemed that the hiring employer will only consider applications from those able to comply with and work in the country where the role is based.