Overview
Cynghorydd, Gwasanaethau Recriwtio a Chynorthwyo Myfyrwyr Cymru (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP)
Salary: £26707.00
Newid eich gyrfa, newid bywydau
Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).
Y Rôl
Mae'r Brifysgol Agored yn ymrwymedig i sicrhau bod addysg uwch ar gael i bawb a bod y daith yn ddi-dor i fyfyrwyr. Mae hefyd yn ymrwymedig i gefnogi eu llwyddiannau dysgu, ni waeth beth fo'u cefndiroedd neu gymwysterau addysgol blaenorol.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio fel rhan o'n Tîm Recriwtio a Chynorthwyo Myfyrwyr. Byddwch yn helpu darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol â'u hymholiadau, yn eu helpu i wneud dewisiadau astudio unigol sy'n sicrhau llwyddiant, waeth beth y gallai hynny ei olygu iddynt. Byddwch yn defnyddio arbenigedd mewn pwnc i arwain myfyrwyr, gan ddefnyddio ein systemau mewnol i ddarparu gwybodaeth ac i wella profiadau myfyrwyr ym mhob cam o'u taith.
Byddwch yn cyfathrebu â myfyrwyr dros y ffôn a thrwy e-bost yn bennaf a bydd gennych amserlen ddyddiol i'ch cefnogi i wneud hyn. Wrth i chi ennill profiad, byddwch yn cael hyfforddiant pellach ar ddefnyddio sianeli cyfathrebu eraill megis gwe-sgwrsio, galwadau allanol neu'r cyfryngau cymdeithasol.
Cyfrifoldebau Allweddol
Darparwyr gwasanaeth Amlsianel
- Rhoi gwybodaeth i ymholwyr a myfyrwyr gan eu cefnogi gyda phrosesau cofrestru, ymholiadau am gyllid a gwybodaeth gyffredinol am y Brifysgol Agored yn bennaf drwy alwadau ffôn sy'n dod mewn ac yn mynd allan a negeseuon e-bost.
- Trosglwyddo galwadau'n rhagweithiol i dimau arbenigol i gael cyngor ac arweiniad pellach lle bo’n briodol fel rhan o fodel Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad.
- Defnyddio eich profiad a'ch blaengaredd i ymchwilio i broblemau ac ymateb iddynt, dehongli a chymhwyso gweithdrefnau a chanllawiau a nodir mewn polisïau y cytunwyd arnynt.
Prosesau a safonau gweithredol
- Cynnal unrhyw dasgau neu brosesau gweinyddol mewn perthynas â cheisiadau myfyriwr neu ymholwr mewn modd amserol.
- Cynnal cysylltiad â myfyrwyr ac adolygu a diweddaru cofnodion gan ddefnyddio systemau'r Brifysgol.
- Gweithio yn ôl rota fel rhan o dîm er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â phob gweithgaredd yn brydlon ac yn effeithiol, ac yn unol â Lefelau Gwasanaeth y cytunwyd arnynt.
- Cyrraedd ac anelu at ragori ar y safonau gwasanaeth disgwyliedig a nodir yn ein fframwaith ansawdd, gan ddarparu profiad cadarnhaol i bob myfyriwr ac ymholwr drwy eu cadw wrth galon popeth a wnewch
Gwelliant a Datblygiad Parhaus
- Manteisio ar ein diwylliant o welliant parhaus drwy, er enghraifft, ymgysylltu â mentrau o ansawdd a thrwy gyfrannu at gyfarfodydd tîm.
- Cydnabod a dathlu llwyddiannau, tra'n cymryd cyfrifoldeb i weithredu ar adborth, a gwneud pethau'n well gyda brwdfrydedd ac ymrwymiad.
- Chwilio am gyfleoedd a fydd yn eich ymestyn a'ch herio, siarad yn agored â'ch Rheolwr Tîm am eich perfformiad eich hun, gan ymdrechu i ddod yn hyrwyddwr yn eich maes arbenigedd.
- Mynychu digwyddiadau hyfforddi a briffiau i sicrhau bod gennych wybodaeth weithredol gywir a chyfredol fel eich bod yn gallu mabwysiadu arferion a gweithdrefnau busnes cywir ac sy'n esblygu.
- Mynychu a chymryd rhan weithredol mewn cyfarfodydd tîm tra'n cyfrannu'n weithredol at syniadau i wella'r busnes a mentrau i wella darpariaeth y gwasanaeth.
- Ymgymryd yn gadarnhaol i roi cymorth i aelodau newydd o'r tîm a'u datblygu.
- Rhannu gwybodaeth ac arferion gorau gydag eraill ar draws ysgolion ac adrannau.
Amdanoch Chi
Hanfodol
- Ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych, gydag agwedd gadarnhaol ac mewn modd proffesiynol.
- Profiad o ymateb i ymholiadau amrywiol a rhoi datrysiadau ar waith, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth.
- Sgiliau cyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig e.e. technegau ffôn effeithiol, defnyddio Saesneg clir i esbonio polisïau a phrosesau ac i ysgrifennu'n glir, yn gryno ac yn gywir.
- Gallu delio â gwybodaeth a gweithdrefnau wedi'u dogfennu a'u dilyn: bod yn flaengar yn datrys problemau, tra'n cydnabod ffiniau.
- Sgiliau TGCh y gellir eu harddangos, gan gynnwys defnyddio pecynnau Microsoft Office.
- Profiad o weithio'n effeithiol fel rhan o dîm, a gweithio i gyflawni targedau personol, targedau tîm a thargedau sefydliadol.
- Sgiliau trefnu da gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser, gweithio'n gynhyrchiol ac yn gywir mewn amgylchedd cyflym.
- Hyblygrwydd gan gynnwys y gallu i addasu i amgylchiadau (gweithio gartref ac yn y swyddfa), dyletswyddau ac arferion gwaith amrywiol.
- Tystiolaeth o ddangos ymrwymiad i ddatblygiad parhaus.
- Y gallu i gynnal y rôl mewn modd sy'n gyson â deddfwriaeth cydraddoldeb a pholisïau'r Brifysgol.
Dymunol
- Profiad o weithio mewn model hybrid a chyfathrebu o bell.
- Gallu cyfathrebu’n hyderus gan ddefnyddio’r Gymraeg.
- Profiad o weithio o fewn amgylchedd addysg uwch.
- Profiad o weithio mewn amgylchedd gwasanaethau cwsmeriaid aml-sianel cymhleth ac ymdopi â nifer fawr o alwadau, negeseuon e-bost a gohebiaeth.
- Profiad o weithio â system rheoli cydberthnasau â chwsmeriaid.
NVQ lefel 2 neu 3 mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid neu Wybodaeth, Cyngor ac Arweiniad
Cymorth gyda'ch cais
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.
Beth yw'r buddion i chi?
Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).
Trefniadau Gweithio Hyblyg
Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.
Lleoliad Gweithio
Rhagwelir y gall trefniant gweithio hybrid gael ei fabwysiadu ar gyfer y rôl hon, lle gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio gartref ac yn y swyddfa. Fodd bynnag, gan fod contract y rôl hon yn cyd-fynd â'n swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd rhywfaint o bresenoldeb yn y swyddfa yn ofynnol pan fo angen ac mewn ymateb i anghenion busnes. Byddem yn disgwyl i hyn fod hyd at 2 diwrnod yr wythnos, ond gallai fod yn fwy aml yn ôl anghenion busnes.
Camau nesaf yn y broses Recriwtio
Mae dyddiadau cyfweliadau i'w cadarnhau.
Hysbysiad dyddiad cau cynnar
Er y bydd y rhan fwyaf o'r rolau yn parhau ar agor tan y dyddiad cau a hysbysebir, gall ceisiadau gael eu hadolygu yn barhaus. Mewn rhai achosion, gall swyddi gwag gau yn gynharach pe bai nifer digonol o geisiadau addas wedi dod i law ac mae'r effeithiau ar gydraddoldeb wedi cael eu hystyried yn briodol. Bydd yr holl rolau yn parhau i gael eu hysbysebu am o leiaf un wythnos cyn iddynt gael eu cau yn gynnar.
Os ydych wedi dechrau cais neu yn y broses o wneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym yn ymrwymedig i ddeall amgylchiadau unigol ac yn gallu cynnig cymorth ychwanegol lle y bo angen, gan gynnwys addasiadau rhesymol ar gyfer ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol:
- CV
- Datganiad Ategol hyd at 1,000 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a'ch profiadau yn cyfateb i feini prawf hanfodol y rôl hon fel y nodir uchod
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac na fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.
IMPORTANT: Before applying for this role, please make sure you have the right to work in the country where the role is based. Unless it clearly stipulates within in the job advert above that the hiring company is looking to or able to sponsor applicants it is deemed that the hiring employer will only consider applications from those able to comply with and work in the country where the role is based.













