Overview
Ranger – Aberdaron,Aberdaron, United Kingdom
Ceidwad
Fel Ceidwad, byddwch yn cyfrannu at wella cynefinoedd a mynediad i gefn gwlad ac arfordir Pen Llŷn. Gan weithio yn rhai o lefydd a gofodau mwyaf trawiadol y wlad, boed law neu hindda, bydd eich cariad tuag at yr awyr agored yn ysbrydoli eraill wrth i chi wneud eich gorau i sicrhau bod tirweddau’n cael eu cyflwyno’n hyfryd ac ecosystemau’n ffynnu.
Cyflog: £27,612 y flwyddyn
Hyd y Contract: Parhaol
Oriau Gwaith: Byddwch yn gweithio 37.5 awr yr wythnos, gan gynnwys rhai gyda’r nosau, penwythnosau a Gwyliau Banc.
The ability to communicate fluently in Welsh is essential for this role. The English version of this advert can be found in the attachments.
O ddydd i ddydd byddwch yn rhan o dîm Ceidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan ddarparu gwaith cadwraeth a chynnal a chadw ar draws yr ystad, o ffensio, atgyweirio cloddiau, adeiladu waliau sych i blannu coed a rheoli rhywogaethau ymledol. Er mai Cwrt (Aberdaron) fydd y man sefydlog, mae’r gwaith wedi’i wasgaru ar draws safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhorthdinllaen, Ynys Môn, Glan Faenol a Phen Llŷn. Byddwch yn gweithio’n agos gyda thenantiaid ffermydd, gwirfoddolwyr a’r gymuned leol, gyda’r mwyafrif ohonynt yn siaradwyr Cymraeg, felly mae gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Does dim dwywaith y bydd yr ardal y byddwch yn gweithio ynddi yn drawiadol iawn, ond gall amgylchiadau ar yr arfordir fod yn gyfnewidiol. Byddwch yn treulio cryn dipyn o amser yn yr awyr agored gydol y flwyddyn, felly mae’n rhaid i chi fod yn barod am bob math o dywydd, meddu ar brofiad da o weithio yn yr awyr agored, a bod yn wydn ac yn barod i addasu eich cynlluniau er mwyn gweithio gyda’r tywydd ar y diwrnod.
Rydym yn falch o’r rhan mae’r Gymraeg yn ei chwarae yn y llefydd a’r cymunedau rydym yn gofalu amdanynt ar hyd a lled Cymru. P’un a ydych chi’n siaradwr Cymraeg rhugl, yn ddysgwr, neu’n hollol newydd i’r iaith, byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd ei angen ar gyfer eich rôl ac er mwyn ymgysylltu gydag iaith a diwylliant Cymru fel rhan o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Wedi’ch arwain gan y Rheolwr Cefn Gwlad, byddwch yn blaenoriaethu a rheoli rhaglen waith effeithiol a hyblyg, gan gymryd cyfrifoldeb dros gyflawni prosiectau bach a chanolig. Byddwch yn cefnogi eich cyd-geidwaid a chydweithwyr yn bennaf ar draws Ynys Môn a Phen Llŷn wrth ddeall gwaith cadwraeth a mynediad, ond ar adegau byddwch yn cefnogi cyd-geidwaid ar safleoedd eraill ar draws gogledd Cymru.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol yn cynnal safonau ardderchog o ran edrychiad eiddo a’r gwaith cynnal a chadw ynddo, gan gyflawni amcanion cadwraeth yn llwyddiannus, a byddwch yn meithrin ac yn cynnal perthnasoedd proffesiynol cryf gyda phartneriaid allanol, cydweithwyr, contractwyr, tenantiaid a rheolwyr tir cyfagos.
Byddwch yn cyfathrebu eich gwaith cadwraeth i ystod eang o gynulleidfaoedd, rhai newydd, a rhai sy’n bodoli eisoes, a hynny drwy ddigwyddiadau, teithiau cerdded tywys a gwaith ymgysylltu gyda chymunedau lleol.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os:
- oes gennych Ddiploma/NVQ Lefel 3 (neu uwch) mewn cadwraeth cefn gwlad neu amgylcheddol, neu brofiad perthnasol cyfwerth
- oes gennych brofiad ymarferol o ran sgiliau cefn gwlad, gwledig a choedwigaeth
- oes gennych sgiliau adnabod bywyd gwyllt da
- oes gennych brofiad o gwblhau asesiadau risg a datganiadau dull, a’ch bod yn gallu dangos dealltwriaeth dda o reoliadau iechyd a diogelwch
- oes gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan gynnwys y gallu i roi cyflwyniadau cyhoeddus
- oes gennych ddealltwriaeth a/neu brofiad o weithio gyda gwirfoddolwyr
- ydych yn gallu rheoli contractwyr a phrosiectau bach, gan gynnwys cyllidebau
- ydych yn meddu ar drwydded yrru lawn y DU
Yr arwyddair sydd wrth wraidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw ’I bawb,am byth’. Rydym yn gweithio’n galed i greu diwylliant cynhwysol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn iddo. Mae’n bwysig bod ein pobl yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth y cymunedau a’r cynulleidfaoedd yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ac yn gwerthfawrogi gwahaniaeth, felly pan ddywedwn ein bod ar gyfer pawb, rydym eisiau i bawb deimlo’n gartrefol yn ein timau hefyd.
- Cynllun pensiwn sylweddol hyd at 10% o gyflog sylfaenol
- Mynediad am ddim i eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i chi, gwestai a’ch plant (dan 18 oed)
- Cynllun benthyciad blaendal rhent
- Benthyciad tocyn tymor
- Gostyngiaday buddion y gweithle, h.y. aelodaeth gampfa, codau gostyngiad siopa, gostyngiadau ar gyfer y sinema
- Lwfans gwyliau hyd at 32 diwrnod mewn perthynas â hyd y gwasanaeth, yn ogystal â chynllun prynu gwyliau, yn amodol ar fodloni meini prawf gofynnol
- Oriau gweithio hyblyg lle bynnag y bo’n bosibl
- Rhaglen cynorthwyo cyflogai
- Parcio am ddim yn y rhan fwyaf o leoliadau
Cliciwch yma i ddysgu mwy am y buddion rydym yn eu cynnig I’ch cefnogi chi.
Aberdaron, Porth y Swnt, Aberdaron, LL53 8BE
Compliance.Eligibility to Work in the UK
Closing Date: 27 September 2026
To apply for this vacancy simply click the ‘apply’ button in the top right hand side of the page.
If you need any help with your application, i.e. due to technical difficulties, please call us on 0370 240 0274 or email us at recruitmentenquiries@nationaltrust.org.uk
If you require an adjustment to the application process, for example due to disability or medical condition, please call us on 0370 240 0274 or email us at adjustments@nationaltrustjobs.org.uk and we’ll support you as best as we can. For examples of how, please see our supporting you page.
Equal Opportunities Statement
The National Trust celebrates diversity and is committed to creating a fair and equal society, free from discrimination. You can read more about our commitment to inclusion and diversity here.
Safeguarding Statement
The National Trust is committed to a safe recruitment processes to help the organisation attract and appoint the right staff/volunteer for the role and responsibilities as set out in the vacancy advert. We will not accept applicants who are not suitable to work with children, young people or adults at risk. If you have any questions around your suitability for this vacancy, please contact the people service centre.
Please note we reserve the right to close this advert early and therefore we encourage you to apply for this position early.
IMPORTANT: Before applying for this role, please make sure you have the right to work in the country where the role is based. Unless it clearly stipulates within in the job advert above that the hiring company is looking to or able to sponsor applicants it is deemed that the hiring employer will only consider applications from those able to comply with and work in the country where the role is based.














