Overview

Research Associate – Tower Building, Cardiff

Research Associate

 Help Transform Diabetic Foot Care

Join the School of Psychology at Cardiff University as a Research Associate and play a leading role in an ambitious NIHR-funded programme examining the psychological and behavioural impact of a complex intervention on people living with diabetes and at risk of foot ulcers.

This is a rare opportunity to join an ambitious, high-profile programme in its final months and play a pivotal role in delivering findings with the potential to transform diabetic foot care. Working with an interdisciplinary team of researchers, clinicians, patients and NHS partners, you will lead the completion of key analyses from the REDUCE programme, a novel intervention designed to address the psychological and behavioural factors that influence diabetic foot ulcer recurrence and healing. With diabetic foot ulcers affecting thousands of patients and costing the NHS around £1 billion annually, this work has the potential to improve patient outcomes while delivering substantial savings to healthcare services.

As a Research Associate, you will have the opportunity to bring years of programme development and data collection to fruition. You will contribute to the final stages of the clinical, process and implementation evaluations, generate impactful publications, help shape recommendations for practice and policy, and support dissemination to academic, clinical, patient and commissioning audiences. The post offers a unique chance to influence how psychological and behavioural science can be integrated into the management of long-term conditions and to help deliver evidence that could lead to a step-change in the prevention of ulcer recurrence.

This role is ideally suited to an ambitious researcher experienced in a range of advance quantitative methods and who is motivated by achieving real-world impact. Joining the project at this crucial stage, you will be able to see the full journey from intervention development to practice-changing outputs, making a significant contribution to a programme that seeks to improve lives, reduce inequalities in health outcomes, and support more sustainable NHS care

For informal enquiries, please contact vedharak@cardiff.ac.uk .

This post is full-time (35 hours per week), available from 1 December 2026  and is fixed term until 31st  May 2027

The majority of roles at Cardiff University are currently operating under “blended working” arrangements, with staff having the flexibility to work partly from home and partly from the University campus depending on specific business requirements. Discussions around these arrangements can take place after the successful candidate has been appointed.

Salary: £41,885 – £46,970 per annum (Grade 6). Appointments to roles at Cardiff University are usually made at bottom of scale unless in exceptional circumstances.

Cardiff University offers many excellent benefits, including 45 days annual leave (incl. bank holidays), local pension scheme, a cycle to work scheme and other travel initiatives, annual increments within the pay scale, and more. It’s an exciting and vibrant place to work with many different challenges and is a proud Living Wage supporter. Business needs will require some degree of office-based working but the balance of time can be spent in the office or remotely (subject to agreement with the line manager).

Date advert posted: Thursday, 12 November 2026
Closing date: Sunday, 29 November 2026

Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds.  We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age.  In supporting our employees to achieve a balance between their work and their personal lives, we will also consider proposals for flexible working or job share arrangements.

Cardiff
University is a signatory to the San Francisco Declaration on Research
Assessment (DORA), which means that in hiring and promotion decisions we will
evaluate applicants on the quality of their research, not publication metrics
or the identity of the journal in which the research is published. More
information is available at: 
Responsible
research assessment – Research – Cardiff University

Applications may be submitted in Welsh, and an application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Cydymaith Ymchwil
 Helpu i Drawsnewid Gofal Traed Diabetig

Ymunwch â’r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd fel Cydymaith Ymchwil i chwarae rôl flaenllaw mewn rhaglen uchelgeisiol a ariennir gan NIHR sy’n archwilio effaith seicolegol ac ymddygiadol ymyrraeth gymhleth ar bobl sy’n byw gyda diabetes ac sydd mewn perygl o wlserau traed.

Mae hwn yn gyfle prin i ymuno â rhaglen uchelgeisiol, proffil uchel yn ei misoedd olaf a chwarae rhan ganolog wrth gyflwyno canfyddiadau gyda’r potensial i drawsnewid gofal traed diabetig. Gan weithio gyda thîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr, clinigwyr, cleifion a phartneriaid y GIG, byddwch yn arwain y gwaith o gwblhau dadansoddiadau allweddol rhaglen REDUCE, ymyrraeth newydd wedi’i chynllunio i fynd i’r afael â’r ffactorau seicolegol ac ymddygiadol sy’n dylanwadu ar ddychweliad ac iachâd wlserau traed diabetig. Gydag wlserau traed diabetig yn effeithio ar filoedd o gleifion ac yn costio tua £1 biliwn i’r GIG bob blwyddyn, mae gan y gwaith hwn y potensial i wella deilliannau cleifion a hefyd sicrhau arbedion sylweddol i wasanaethau gofal iechyd.

Fel Cydymaith Ymchwil, cewch gyfle i weld blynyddoedd o ddatblygu rhaglenni a chasglu data yn dwyn ffrwyth. Byddwch yn cyfrannu at gamau olaf y gwerthusiadau clinigol, proses a gweithredu, yn llunio cyhoeddiadau effeithiol, yn helpu i lunio argymhellion ar gyfer ymarfer a pholisi, ac yn cynorthwyo i ledaenu i gynulleidfaoedd academaidd, clinigol, cleifion a chomisiynu. Mae’r swydd yn cynnig cyfle unigryw i ddylanwadu ar sut y gellir integreiddio gwyddoniaeth seicolegol ac ymddygiadol i reoli cyflyrau hirdymor a helpu i gyflwyno tystiolaeth a allai arwain at newid pwysig yn y gwaith o atal dychweliad wlserau.

Mae’r rôl yn ddelfrydol i ymchwilydd uchelgeisiol sydd â phrofiad mewn ystod o ddulliau meintiol uwch a chymhelliad i gyflawni effaith yn y byd go iawn. Wrth ymuno â’r prosiect ar y cam hanfodol hwn, cewch weld y daith lawn o ddatblygu’r ymyrraeth i allbynnau sy’n newid ymarfer, gan wneud cyfraniad sylweddol i raglen sy’n ceisio gwella bywydau, lleihau anghydraddoldebau mewn deilliannau iechyd, a chefnogi gofal mwy cynaliadwy yn y GIG

Os oes gennych ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â vedharak@caerdydd.ac.uk.

Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon, ar gael 0 1 Rhagfyr 2026 tan 31 Mai 2027.

Mae’r mwyafrif o swyddi ym Mhrifysgol Caerdydd yn gweithredu o dan drefniadau “gweithio cyfunol” ar hyn o bryd, gyda’r hyblygrwydd i staff weithio gartref yn rhannol ac yn rhannol ar gampws y Brifysgol yn dibynnu ar ofynion busnes penodol. Bydd modd trafod y trefniadau hyn ar ôl penodi’r ymgeisydd llwyddiannus.

Cyflog: £41,885 i £46,970 y flwyddyn, (Gradd 6). Ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd unigolion fel arfer yn dechrau ar waelod y raddfa gyflog, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig pecyn buddion gwych, sy’n cynnwys 45 diwrnod o wyliau blynyddol (gan gynnwys gwyliau banc), cynllun pensiwn lleol, cynllun beicio i’r gwaith a mentrau teithio eraill, cynyddrannau blynyddol ar hyd y raddfa gyflog, a mwy. Mae’n lle cyffrous a bywiog i weithio, gyda llawer o heriau gwahanol. Rydym hefyd yn falch o gefnogi’r Cyflog Byw. Bydd anghenion busnes yn gofyn am rywfaint o weithio yn y swyddfa ond gellir treulio gweddill yr amser yn y swyddfa neu’n gweithio o bell (yn amodol ar gytundeb gyda’r rheolwr llinell).

Dyddiad hysbysebu: Dydd Iau, 12 Tachwedd 2026

Dyddiad cau: Dydd Sul, 29 Tachwedd 2026

 

 Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ogystal â chreu gweithle cynhwysol. Rydym o’r farn bod modd gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o bobl o lawer o gefndiroedd gwahanol.  Felly, rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, beth bynnag fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran.  Er mwyn helpu ein cyflogeion i sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith a’u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i weithio’n hyblyg neu rannu’r swydd.

Mae
Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA) San
Francisco, sy’n golygu y byddwn, wrth wneud penderfyniadau cyflogi a dyrchafu,
yn gwerthuso ymgeiswyr ar sail safon eu hymchwil, nid ar sail metrigau cyhoeddi
na’r cyfnodolyn y mae’r ymchwil wedi’i chyhoeddi ynddo. Ceir rhagor o wybodaeth
yma:  
Asesu ymchwil yn
gyfrifol – Ymchwil – Prifysgol Caerdydd

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Before you apply -
Register now and turn on alerts for jobs like this!

  • To apply for this position, receive job notifications and manage your applications, click "Register with Diversity Jobs Group".
  • To apply for this position without registering, click "Apply with Customer".

By registering you agree to our terms and conditions.

Apply with Customer

IMPORTANT: Before applying for this role, please make sure you have the right to work in the country where the role is based. Unless it clearly stipulates within in the job advert above that the hiring company is looking to or able to sponsor applicants it is deemed that the hiring employer will only consider applications from those able to comply with and work in the country where the role is based.