Overview

Tiwtor Staff, Nyrsio (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP)

Newid eich gyrfa, newid bywydau

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).

Y Rôl

Mae Tiwtoriaid Staff yn aelodau o staff academaidd yr Ysgol Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol (HWSC) yn y Gyfadran Lles, Addysg ac Astudiaethau Iaith (WELS).  Maen nhw’n chwarae rôl hanfodol yn narpariaeth model addysg dysgu agored â chymorth Y Brifysgol Agored (OU); yn cyfrannu at gyflwyno modiwlau a chymwysterau a chymryd rhan mewn ymchwil ac ysgolheictod sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau strategol yr Ysgol a’r Gyfadran. Mae Tiwtoriaid Staff yn cynrychioli'r Brifysgol Agored ar grwpiau strategol cenedlaethol a lleol, yn darparu arweinyddiaeth academaidd ac yn rheolwyr llinell i Diwtoriaid Modiwl a Thiwtoriaid Ymarfer sy'n darparu cefnogaeth academaidd a chefnogaeth fugeiliol i fyfyrwyr y Brifysgol Agored. Mae'r swydd yn cynnwys cyfrifoldeb am weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr i gefnogi recriwtio a dewis ar gyfer rhaglenni proffesiynol ac am reoli dysgu ymarfer sy'n ymwneud â phortffolio cymwysterau'r Ysgol yn weithredol.  Felly, dylai ymgeiswyr feddu ar gymwysterau a phrofiad perthnasol. Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm wedi’i lleoli Nghymru ac efallai y bydd yn ofynnol iddo deithio ar draws y wlad ac o bryd i'w gilydd i Milton Keynes a rhannau eraill o'r DU.

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Cyfrannu at reoli cymwysterau proffesiynol yn effeithiol a gweithio'n strategol gydag asiantaethau, cyflogwyr a chyrff rheoleiddio i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio allanol a mewnol.
  • Hyrwyddo rhaglenni proffesiynol y Brifysgol Agored a chymwysterau eraill i noddwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill.
  • Gweithio ar y cyd â chydweithwyr a sefydliadau partner wrth recriwtio a dewis myfyrwyr i gofrestru ar gyfer rhaglenni proffesiynol a chymwysterau eraill.
  • Rhoi cefnogaeth weithredol ar gyfer y rhaglenni proffesiynol a'r modiwlau iechyd a gofal cymdeithasol cysylltiedig drwy fod yn rheolwr llinell i Diwtoriaid Modiwlau a Thiwtoriaid Ymarfer a sicrhau ansawdd yr holl ddysgu.
  • Cyfrannu at recriwtio, rheoli, cefnogi a datblygiad staff Tiwtoriaid Modiwl a Thiwtoriaid Ymarfer mewn partneriaeth â Gwasanaethau Darlithwyr Cyswllt, gan ystyried pwysigrwydd darpariaeth o ansawdd uchel.
  • Trefnu darpariaeth a phrosesau tiwtorial priodol a sicrhau ansawdd gohebiaeth, hyfforddiant, hyfforddiant wyneb yn wyneb, hyfforddiant ar-lein ac asesu ymarfer.
  • Cyfrannu at ddatblygu a chyflwyno modiwlau a chymwysterau dysgu o bell a chynghori'r Ysgol ar gynnwys a strategaethau addysgu modiwlau a chymwysterau yng ngoleuni adborth gan yr holl Ddarlithwyr Cyswllt a myfyrwyr.
  • Yn unol â strategaeth Pedair Gwlad y Brifysgol, gweithio gyda chydweithwyr yn yr Ysgol a'r Gyfadran ehangach i sicrhau ymwybyddiaeth o'r cyd-destun polisi a’r cyd-destun deddfwriaethol. 
  • Cynorthwyo timau modiwlau a chymwysterau i fonitro, graddio a sicrhau ansawdd adborth ar aseiniadau myfyrwyr a phortffolios ymarfer sy’n cael eu hasesu gan Diwtoriaid Modiwl a Thiwtoriaid Ymarfer.
  • Datblygu a gweithredu cynllun ymchwil ac ysgolheictod personol sy'n cyd-fynd â Strategaeth Ymchwil ac Ysgolheictod a chyfnewid gwybodaeth yr Ysgol a'r Gyfadran.
  • Cynrychioli'r Ysgol, y Gyfadran a'r Brifysgol Agored mewn pwyllgorau a grwpiau allanol lleol a pherthnasol strategol; gweithio gyda phartneriaid ar draws y sector Annibynnol a Statudol, Prifysgolion eraill a'r Llywodraeth berthnasol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau eraill yn ôl yr angen.

Amdanoch Chi

Hanfodol:

 

  • Gradd gyntaf dda (ail ddosbarth uchaf neu uwch) neu gymhwyster Ôl-raddedig mewn maes pwnc sy'n berthnasol i nyrsio, iechyd a/neu ofal cymdeithasol;
  • Cymhwyster proffesiynol mewn cefndir proffesiynol perthnasol;
  • Cofrestriad presennol gyda'r corff proffesiynol perthnasol;
  • Profiad o gefnogi dysgu ymarfer;
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o addysg broffesiynol, gan gynnwys y safonau a'r gofynion rheoleiddio ar gyfer rhaglenni proffesiynol;
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion cyfredol ym maes iechyd a/neu ofal cymdeithasol;
  • Profiad o addysgu ac addysg ymarferol;
  • Profiad o weithio'n annibynnol; i fodloni terfynau amser, blaenoriaethu tasgau, a datrys problemau cymhleth mewn ffordd sensitif ac adeiladol;
  • Profiad o ddefnyddio technoleg gwybodaeth (TG) at ddibenion cyfathrebu ac addysgu ac i gyrchu a defnyddio data i gefnogi cyflwyno modiwlau a chymwysterau;
  • Gallu amlwg i gefnogi datblygiad proffesiynol Tiwtoriaid Modiwl a Thiwtoriaid Ymarfer;
  • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da, gan gynnwys y gallu i fynegi syniadau'n glir ar lafar ac yn ysgrifenedig;
  • Dealltwriaeth gadarn o anghenion oedolion sy'n dysgu;
  • Y gallu i hyrwyddo darpariaeth ddysgu HWSC i unigolion a chwsmeriaid corfforaethol ac i ddatblygu a chefnogi partneriaethau lleol;
  • Y gallu i gynnal y rôl mewn modd sy'n gyson â deddfwriaeth cydraddoldeb a pholisïau'r Brifysgol.
  • Profiad o addysgu dysgwyr sy'n oedolion, yn enwedig yng nghyd-destun dysgu o bell;
  • Profiad o fod yn rheolwr llinell ar bobl;
  • Profiad o arweinyddiaeth effeithiol, gyda'r gallu i gyfleu gweledigaeth, strategaeth a datblygu eraill;
  • Profiad o ymgysylltu â chyflogwyr yn y sector iechyd, gofal cymdeithasol neu ofal proffesiynol cysylltiedig;
  • Ymrwymiad i barhau i ddatblygu a diweddaru gwybodaeth yn y maes perthnasol;
  • Y gallu i addysgu a chefnogi myfyrwyr yn deg ac yn barchus, yn unol â pholisïau'r Brifysgol;
  • Ymrwymiad i hyrwyddo gwasanaethau o safon i fyfyrwyr, yn enwedig drwy reolaeth academaidd a datblygiad staff priodol ar gyfer Tiwtoriaid Modiwl a Thiwtoriaid Ymarfer a gwerthuso darpariaeth ddysgu;
  • Sgiliau rhyngbersonol, sefydliadol, gwaith tîm a sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan gynnwys y gallu i fynegi syniadau'n glir ar lafar ac yn ysgrifenedig;
  • Y gallu i weithio'n effeithiol ar draws ffiniau sefydliadol a chydweithio ag eraill ar draws y sector;
  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac fel aelod effeithiol o dîm;
  • Gallu a pharodrwydd i deithio'n rheolaidd ac i weithio'n hyblyg gan gynnwys rhai nosweithiau a phenwythnosau.

Dymunol:

  • Gradd uwch a photensial i ddatblygu proffil ymchwil ac ysgolheictod;
  • Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg;
  • Profiad o ddysgu seiliedig ar waith;
  • Hanes o weithgarwch ymchwil ac ysgolheigaidd sy'n gysylltiedig â'r proffesiynau nyrsio, iechyd, gofal cymdeithasol a/neu broffesiynau perthynol;
  • Ymrwymiad i gydweithio ar draws ffiniau sefydliadol. 

Cymorth gyda'ch cais

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.

Noder y gallwch wneud cais yn y Gymraeg ac na fyddai cais Cymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol. Bydd ymgeiswyr sy'n cael eu gwahodd i gyfweliad hefyd yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn y cyfweliad.

Beth yw'r buddion i chi?

Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.  Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).

Trefniadau Gweithio Hyblyg

Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.

Lleoliad Gweithio:Disgwylir y gellir sefydlu patrwm gweithio hybrid ar gyfer y rôl hon, lle gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio gartref ac o'r swyddfa. Fodd bynnag, gan fod y rôl hon wedi'i lleoli yn ôl y contract yn ein Swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd presenoldeb yn y swyddfa yn ofynnol pan fo angen ac mewn ymateb i anghenion busnes. Cefnogir gweithio llawnamser yn ein safle yng Nghaerdydd hefyd os byddai hynny'n well gan yr ymgeisydd. Ni chaiff treuliau sy'n gysylltiedig â theithio i'n safle yng Nghaerdydd eu had-dalu.

Camau nesaf yn y broses Recriwtio

Mae dyddiadau cyfweliadau i'w cadarnhau.

Hysbysiad dyddiad cau cynnar

Er y bydd modd gwneud cais am y rhan fwyaf o swyddi tan y dyddiad cau a hysbysebir, mae’n bosibl y byddwn yn adolygu ceisiadau yn barhaus. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y cyfnod ymgeisio am swyddi gwag yn dod i ben yn gynt os oes digon o geisiadau addas wedi dod i law, ac os yw effeithiau hynny ar gydraddoldeb wedi eu hystyried yn briodol. Bydd pob swydd yn cael ei hysbysebu am o leiaf wythnos cyn i’r cyfnod ymgeisio ddod i ben yn gynnar.

Os ydych chi wedi dechrau cais neu os oeddech chi wrthi’n gwneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym wedi ymrwymo i ddeall amgylchiadau unigol a gallwn gynnig cymorth lle bo angen, gan gynnwys gwneud addasiadau rhesymol i ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol:

  • CV
  • Datganiad Ategol hyd at 1,000 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a'ch profiadau yn cyfateb i feini prawf hanfodol y rôl hon fel y nodir uchod. Atodwch eich datganiad ategol i'r maes CV ar y ffurflen gais.

Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio.  Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.

Before you apply -
Register now and turn on alerts for jobs like this!

  • To apply for this position, receive job notifications and manage your applications, click "Register with Diversity Jobs Group".
  • To apply for this position without registering, click "Apply with Customer".

By registering you agree to our terms and conditions.

Apply with Customer

IMPORTANT: Before applying for this role, please make sure you have the right to work in the country where the role is based. Unless it clearly stipulates within in the job advert above that the hiring company is looking to or able to sponsor applicants it is deemed that the hiring employer will only consider applications from those able to comply with and work in the country where the role is based.